Croeso i Therapi Naturiol Angharad Evans
Aleredd, Parasitiaid a Therapi Maeth
Ystyriwch y canlynol:
- Fe all bob un o’ch symptomau ddiflannu ar ôl i’w hachosion gael eu darganfod
- Fe all wneud y newid mwyaf syml i’ch arferion bwyta neu byw gael effaith syfrdannol o bositif ar eich iechyd.
Mae’r driniaeth rwy’n ei chynnig yn cynnwys adnabod y parasitiaid sydd yn y corff. Mae fy mhrofiad a’m gwybodaeth yn y maes yn golygu y gallaf gynghori ar y triniaethau mwyaf llwyddiannus a naturiol i’w gwaredu o’r corff. Fy nod bob tro ydy sicrhau corff iach.
Ystyriwch y ddelwedd o fynydd iâ. Gwelwn m’ond 1/10 ohonno megis ecsema neu’r poenau ry’ch chi’n teimlo. Mae 9/10 ohonno o dan yr wyneb, a dyma ble mae’r pathogenau - y tocsinau, yn llecru’n anweladwy. Wrth waredu’r rhain, mae’r mynydd iâ yn toddi a’r symtomau yn difannu.
Rwy’n grediniol mai’r ateb ydy dilyn therapi naturiol. Y nod ydy trîn yr holl berson; wedi canfod achos y salwch a’r symptomau yna creu cynllun personol sy’n galluogi’r corff i wella.