Ar Waith
Gorau cyfoeth, iechyd
Ar Waith
Gorau cyfoeth, iechyd
Ar Waith
Gorau cyfoeth, iechyd

Dyma eiriau Sian yn disgrifio’i phrofiadau o dderbyn triniaeth gennyf.

A wnaethoch chi erioed ystyried therapi naturiol cyn derbyn triniaeth gan Angharad?

‘Doeddwn i erioed wedi clywed am therapi naturiol cyn gweld hysbyseb Angharad. Ron i wedi cael profiad o gael therapi amgen fel ‘reflexology’ ac roedd diddordeb gen i yn yr elfen holistig o iachau’r corff, ond don i ddim wedi clywed am y math yma o beth o’r blaen.

Beth wnaeth eich denu at Therapi Naturiol Angharad?

Ar ôl gweld hysybyseb Angharad yn Penarth View, fe es ar ei gwefan ac wrth ddarllen y dywediadau ar ben bob tudalen roedden nhw fel pe tae nhw’n siarad gyda mi - un o’r dyfyniadau gliciodd â fy meddwl oedd ‘Mae pont i groesi bob anhawster’. Ron i wedi bod yn dioddef gydag asthma am flynyddoedd ac wedi dechrau cael psoriasis drwg ac alergeddau annifyr ar y croen, a dim yn gwneud gwahaniaeth; felly ron i’n barod i drio rhywbeth newydd. Ron i hefyd wrth fy modd bod Angharad yn gallu cynnig y driniaeth imi drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiwch y driniaeth mae Angharad yn ei chynnig?

Mae Angharad yn cyfathrebu â’r corff mewn modd arbennig - 'rych chi’n gorwedd yn gyfforddus tra mae Angharad yn profi’r hyn mae’r corff angen ei wneud i wella ei hun ac mae hi’n cael yr atebion gan eich corff chi eich hun sy’n anhygoel o glyfar. Wrth osod ffiol fach o hylif penodol with eich afu (neu fan arall penodol ar y corff) mae Angharad yn gallu gweld os yw eich corff yn gallu dygymod â’r peth hwnnw a’i peidio. Yr unig beth sydd raid ichi ei wneud yw ymlacio a chadw ysbryd cadarnhaol! Mae Angharad wedyn yn eich cynghori ar beth i wneud i wella ac yn rhoi triniaeth sy’n hollol benodol i chi.

Fasech chi’n annog pobl eraill i gysylltu ag Angharad?

Fe fyddwn i’n argymell unrhyw un sy’n teimlo nad oes dim arall wedi gweithio i gysylltu ag Angharad. Mae fy asthma i wedi gwella yn rhyfeddol ac mae’r psoriasis oedd gen i wedi clirio yn anhygoel ac ar ben hynny tydw i ddim wedi cael unrhyw symptomau o alergedd ers misoedd bellach. Yn ogystal â hyn, dan arweiniad Angharad rydw i wedi dechrau arferion da o fwyta’n fwy iach, mae fy meddwl yn gliriach, ac rydw i’n teimlo’n fy mod yn adnabod fy nghorff yn well. Mewn gwirionedd mae triniaeth Angharad wedi dod å rhywbeth newydd i fy mywyd- rhywbeth hollol bositif sydd wir wedi gwneud gwahaniaeth.

Beth am bobl sy'n ‘sgeptical' am y fath driniaeth?

'Does dim yn y byd ohoni heddiw yn cyfri mwy na geirda ac ymddiriedaeth ac mae gan Angharad nifer fawr o bobl sydd â pharch mawr tuag ati hi fel person ac at ei thriniaeth. Mae gymaint o bethau ffug o’n cwmpas ymhobman fel bod y pethau gwir a da yn sefyll allan yn amlwg. Fe fyddwn i’n dweud bod Therapi Naturiol Angharad Evans yn un o’r pethau gwir a da hynny sy’n werth ei drio ac a fydd yn werthfawr iawn i rai sy’n barod i roi cynnig arni. Wedi’r cwbl beth sydd ganddoch chi i'w golli?!

 

Mae Aenid wedi bod yn dod am driniaeth ers 3 mis am grafu cyson yn ystod y nos yn arbennig.

A wnaethoch erioed ystyried therpiau naturiol cyn derbyn triniaeth gan Angharad?

Do, ond do’n i ddim yn gw’bod y ffordd ambwyti fe, i fod yn berffeth onest. O’n i wedi bod at y doctor am y crafu ond ‘na i gyd o’n nhw’n gweud o’dd bod e’n stress related a moyn rhoi tabledi a do’n i ddim moyn mynd lawr yr hewl ‘na.

Beth wnaeth eich denu at Therapi Naturiol Angharad?

Y nosweth y daeth hi i siarad a ni yn Clwb Clonc, o’n i’n meddwl ‘wel ma’ hwn yn swnio’n ddiddorol’ a o’dd ffrind i fi wedi bod ac o’dd hi wedi gweud bod e wedi gwneud lles iddi hi ac wedyn penderfynes i reit, rhoddwn i go iddo fe.

Disgrifiwch y driniaeth mae Angharad yn ei chynnig

Chi’n ymlacio, wel y’f fi’n ymalcio ta beth a wel I just get into the zone.

Fasech chi’n annog pobl eraill i gysylltu ag Angharad?

Heb amheuaeth. Sain crafu dim mwy a wy’n teimlo mor dda yn fi fy hunan. Byddwn i’n annog rhywun sy’n meddwl bod unrhyw broblem gyda nhw. Byddwn i’n gweud wrthyn nhw i drio fe.

Dyma sylwadau Eirwen sydd wedi bod yn cael triniaeth gennyf ers mis Ionawr.

A wnaethoch erioed ystyried therpiau naturiol cyn derbyn triniaeth gan Angharad?

Dwi wedi manteisio ar therapi naturiol o wahanol fathau ar hyd y blynyddoedd.
Mae ambell therapi wedi cael effaith bositif ond dros dro ac eraill heb fod cystal.

Beth wnaeth eich denu at Therapi Naturiol Angharad?

Rwyn adnabod Angharad ers blynyddoedd Clywais ei bod wedi derbyn gwahoddiad i anerch mudiad anffurfiol rwyn perthyn iddo am ei llwyddiant ym maes Kineisology.
Penderfynais gysylltu a hi yn syth er mwyn cael gwybodaeth am yr hyn roedd y broses yn ei gynnig. Roedd yr hyn ddisgrifiwyd gan Angharad yn gyffrous ac yn newydd iawn i mi. Gwnaeth cyflwyniad i'r broses gan Angharad fy argyhoeddi fy mod yn mynd i gael y driniaeth iawn oedd yn mynd i fy helpu.

Disgrifiwch y driniaeth mae Angharad yn ei chynnig

Cyn dechrau'r broses roedd yn angenrheidiol paratoi fy hunan yn feddyliol mod i'n llwyr ymroi i allu Angharad i'm trin a bod gen i ffydd yn y broses. Hefyd bod gennyf yr ymroddiad i ddyfal barhau a gofynion manwl y feddyginiaeth .Mae'r driniaeth yn unigryw a'r broses yn ryfeddol.
Gallaf ond disgrifio y gwelliant syth yn fy iechyd a'r gwelliant cynyddol wrth i'r driniaeth fynd yn ei blaen dros y misoedd yn angrhedadwy!.

Fasech chi’n annog pobl eraill i gysylltu ag Angharad?

Rydw i'n llwyr argyhoeddiedig bod triniaeth gan Angharad yn arbennig, mae ganddi'r ddawn i'm ymlacio yn llwyr ac i ymateb i gwestiynau yn ystod y sessiwn. Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn fy helpu ddeall mwy am yr effeithion dylwn eu profi ar ol y driniaeth ac yn ystod cyfnod y feddyginiaeth. Maen gysur gwybod eu bod bob amser yn barod i ymateb yn syth i ambell ofid sy'n codi rhwng apwyntiadau naill ai drwy ebost, neges testun neu alawad ffon!

Mae'r amgylchedd i'r sessiynau yn hyfryd ac yn rhoi rhyw deimlad cartrefol, hyfryd iawn.

Pleser yw cael rhannu fy mhrofiadau am arbennigedd Angharad ym maes Kineisology. Rwyn gallu rhoi tysyiolaeth ddidwyll o'r gwelliant sydd wedi cymryd lle yn iechyd fy hunan. Rwyn barod iawn i annog eraill i brofi fel finnau bod Therapi Naturiol Angharad yn gweithio ac yn cael effaith bositif iawn arnoch fel person.

 

Ceris

Mae Angharad wedi bod yn gaffaeliad!
Sdim dwywaith mae hi wedi fy helpu ar nifer o achlysuron.
Mae ganddi ffordd dyner a thrylwyr wrth ymdrin .
Rwyn falch ei bod yn byw rownd y gornel i mi!!

 

Jo

Rwy’n meddwl y byd o Angharad! Mae’n berson caredig ac addfwyn dros ben ac mae wedi fy helpu i GYMAINT ers i mi droi ati hi rhyw flwyddyn yn ôl. Rwy’n teimlo mor ffodus mod i wedi ei darganfod ac mae gen i ffydd mawr ynddi- ati hi fydda i’n troi pryd bynng fydda i’n diodde o rhyw anhwylder neu ‘i gilydd, corfforol neu emosiynnol, a hyd yn hyn nid yw wedi fy siomi! Wir, mi fyswn ar goll hebddi! Ac mae’n braf, a mor bwysig , gwybod na fydd byth yn argymell unrhyw gyffuriau niweidiol. I’r gwrthwyneb mae pob peth yn llesol! Diolch byth am Angharad!

 

Apwyntiadau O Bell

Dylan/Anne (Llanrwst)

Yn anterth y cyfnod clo, roeddwn i wedi symud adref i fyw at y teulu yn Llanrwst. Dechreuais sylwi bod fy mam yn crafu lot ar eich choesau a’i phengliniau, ac ar ôl holi’n iawn ond hithau’n gyndyn o ‘wneud ffws’, bu’n rhaid iddi gyfaddef fod ganddi lid gwael ar y croen neu soriasis. Dangosodd ei choesau i mi, a chefais fraw o weld yr holl greithiau tywyll nes waedu weithiau. Aethom ar wefan Amazon ac archebu eli croen i leddfu rhywfaint ar yr anghysur. Rhoddodd y gorau i fwyta pethau melys oherwydd tybiai taw dyna oedd yn sbarduno’r holl gosi a chrafu. Pan aeth y broblem o ddrwg i waeth, a’i gadael ar ddi-hun ambell noson, dyma benderfynu cysylltu ag Angharad. A ninnau’n byw 170 milltir i ffwrdd yn y gogledd, a phrin yn cael gadael tŷ oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth, dyma drefnu sgwrs Zoom. Dros yr wythnosau a’r misoedd canlynol, bu Angharad yn paratoi triniaeth amgen iddi. Deallwyd bod ganddi alergedd i goed pîn, ac mai bwydydd fel cig moch oedd y drwg yn y caws. Gyda chyfuniad o dabledi a ffisig naturiol, cynghorion deiet, a sgyrsiau Zoom bob hyn a hyn, dechreuodd ansawdd y croen wella’n aruthrol. Pylodd y cosi di-baid a chafodd mam nosweithiau gwell o gwsg am y tro cyntaf ers slawer dydd. O hyn ymlaen, dim ond codi’r ffôn neu drefnu sgwrs ar y we sydd ei angen, ac rydyn ni’n gwybod y bydd Angharad ben arall yn barod i helpu. Diolch o galon.

 

Delyth (Llandudno)

Yn ystod y Cyfnod Clo cyntaf a minnau’n teimlo’n isel a di-lun digwyddais ddod ar draws gwefan Angharad a chysylltais a hi’n syth.Roedd yn glust parod i wrando, gan gynnig ei chyngor doeth. Roeddwn yn teimlo’n saff wrth dderbyn ei hargymhellion ar sut i wella fy anhwylderau.
Mae hi'n berson amyneddgar a charedig iawn.Mae hi bob amser yn cymryd ei hamser i esbonio popeth i mi mewn termau y gallaf eu deall. Mae'n ddiwyd yn sicrhau bod fy iechyd y gorau y gall fod. Byddwn yn argymell Angharad i unrhyw un. Diolch amdani!

 

Jo (Caerfaddon, Somerset)

Angharad has delivered result after result for me, she's brilliant. 

I first started working with Angharad in August 2021, 4 weeks after I had really bad food poisoning and was still barely able to eat. My initial session was over the phone and then she did a 'test' remotely. She sent me a list of foods to avoid immediately (many of which I wasn't eating but some I was) alongwith a list of treatments; zapping and pills. I was a little sceptical at first and did the classic 'I'll start on Monday', however on the Sunday before 'starting' I ate (for the first time since my food poisoning) some pork and it made me so ill. It was of course on Angharad's avoid list! After that I toed the line, did the treatments and avoided the foods. 

It's been slow but steady progress for me and on the odd occasion it's got worse (normally due to added stress) Angharad has done another treatment and we've addressed the problem. To date I've only seen Angharad in person once and I've been so impressed by how effectively it's worked online and over the phone. There have been times where I've been barely able to eat any foods, have been so exhausted I've been off work and have felt so incredibly low. Angharad has helped me with each and every situation, they are so intertwined but at different times one has been the most prevalent. I cannot recommend Angharad enough. I owe her so much. 

 

Emily (Chiswick, Llundain)

Angharad has remotely (!!!) managed to support me out of a seriously itchy-skin-hole. I was stuck with itchy arms and neck and I didn't know why for about 9 months. Although prone to eczema and allergies this continued itch simply didn't make sense. I was skeptical of how the remote testing would work but to be honest, I didn't overthink it and just went with it. After 2 sessions we had cleared up some 'bigger' stuff and then got down to the skin element. I honestly can't believe, even now when I look at my arms, how different they look. It's truly amazing. I'm back to eating all the things I want to, with the added knowledge of what the main food culprits could be that might challenge my body. This educational piece is invaluable as it helps me to make better food and lifestyle choices in my everyday life. 6 months later and I am more confident, better informed and could recommend her to anyone! Thank you Angharad - you are a superstar. X

 

Plant

Yma, mae Anne yn esbonio’r driniaeth mae’i phlant wedi derbyn wrthyf

I first visited Angharad to help me overcome thyroid issues. I was very pleased with the result and having 2 children under the age of 10, I started considering natural treatment by Angharad whenever possible.

My son suffers from hay fever and I was a little reluctant with long term use of antihistamine. My daughter on the other hand has had recurring colds and chest infections and I was concerned about regular antibiotic treatment.

Over time, Angharad has helped identify issues with fungus, mold, viruses and parasites picked up along the way as well as some food sensitivities. She has a great rapport with children, she puts them at ease and knows how to gain their trust. She makes them feel as if they are in charge of their own treatment and small touches like having their own treatment bag goes a long way. My daughter who was advised to cut down her sugar intake has fully embraced it. Small changes like swapping cows yoghurt with goat milk yoghurt has been a seamless transition even though I thought that may be a big deal for her. All in all, I would certainly recommend Angharad if your children have recurring health issues that do not seem to get resolved with visit to the GP.

Dyma eiriau Beth yn disgrifio ei phrofiad hi a’i mab

For years, Jay had been sick. We weren't sure whether it was anxiety or bullying but something was definitely making him sick. He would be sent home so often from school and it got to the point where he was only going to school once or twice every week.

I was taking him back and forth to the doctor’s in tears. He was sent home from the hospital once, and was sick all along the corridor. He had all this medication, which I wasn’t happy about.

I wanted to resolve the problem rather than stop the symptoms for a while. I spoke to my husband about going to see Angharad but he didn’t agree and said to let the hospital 'do their thing'.  But they weren’t fixing him.  So we went to Angharad. At first, he was still being sick. It took about a month to get everything under control. He lost a tremendous amount of weight, he started to feel better and he began to have energy again. He’s a sensitive sole and we still go to see Angharad to keep building up his strength.

Now, he’s able to go to school. On the odd occasion he still goes sick. We watch his diet but he’s much much much better. I really don’t know where we’d be without having taken him to Angharad.

Testimonials

Ffôn
07739 210 291
Cyfeiriad
Grove Terrace
Penarth
Bro Morgannwg
CF64 2NL

Sylwer:
Ymwelwyr drwy apwyntiad yn unig