Cyflyrau
Arfer yw hanner y gwaith
Cyflyrau
Arfer yw hanner y gwaith
Cyflyrau
Arfer yw hanner y gwaith

  • Cyflyrau Gallaf Drin

    • Acid Reflux/Heartburn
    • ALS
    • Anxiety
    • Arthritis
    • Asthma
    • Asthma
    • Auto Immune Conditions
    • Bloating
    • Candida
    • Cerebral Palsy
    • CFS
    • Chronic cough
    • Coeliac Disease
    • COPD
    • Crohn’s Disease
    • Cystic Fibrosis
    • Diverticulitis
    • Eating Disorders
    • Emotional Support (e.g. grief, loss, divorce, abortion, miscarriage, unresolved trauma)
    • Endometriosis
    • Fibromyalgia
    • Hay Fever
    • IBS
    • Infertility
    • Lack of concentration
    • Lupus
    • Lyme Disease
    • ME
    • Memory problems
    • Migraines
    • MS
    • OCD
    • Osteoporosis
    • Panic attacks
    • Parkinson’s
    • Period pain / PMS
    • Polymyalgia
    • POS
    • Skin Disorders
    • Thyroid Disorders
    • Tourettes
    • Ulcerative Colitis
    • Unexplained pain
    • Weight gain
    • Weight loss
    • Yeast infection
  • Yr hyn dw i’n cynnig

    Cynnigaf ystod o driniaethau, sy’n cynnwys:

    • Triniaeth & Chymorth Dadwenwyno
    • Cefnogaeth Maeth
    • Cynllun deiet & Cyngor Ffordd o fyw
    • Cymorth Emosiynol

    Triniaeth & Chymorth Dadwenwyno

    Gyda’n gilydd, byddwn yn canfod tocsinau sy’n peri problem yn y corff megis metalau niweidiol (e.g. mercwri, alwminiwm), parasitiaid a ffwng ac yn cyflwyno ffyrdd naturiol o’u gwaredu o’r corff. Byddwch yn sylwi bod eich symptomau boed yr ecsema neu’r gofid yn lleihau neu’n diflannu.

    Cefnogaeth Maeth

    Gyda’n gilydd, byddwn yn canfod pa ychwanegiadau sydd eu hangen ar y corff er enghraifft, a oes angen fitaminau, mwynau, asidau amino, gwrthocsidyddion, asidau brasterog. Bydd hyn oll yn galluogi’r corff i weithio ar ei lefel optimaidd unwaith eto. Byddwch yn sylwi y bydd gallu’ch corff i ddelio’n effeithiol gyda symptomau cyffredin boed yn annwyd neu stress, yn cryfhau.

    Cynllun Deiet & Cyngor Ffordd o Fyw

    Caiff bob cleient rhestr o fwydydd llesol y ogystal â rhestr o fwydydd y dylid eu hosgoi. Anoddefiad dros dro bydd yr achos bod bwydydd wedi ymddangos ar y rhestr hon. Caiff y rhestr hon ei gwirio ym mhob apwyntiad. Fe welwch y caiff mwy a mwy o fwydydd eu hail-gyflwyno i’r ddeiet ar ôl pob apwyntiad. Byddwn wedi canfod achos yr anoddefiad ac wedi’i waredu felly caiff y bwyd ei ail gyflwyno.

    Yn aml, bydd gwneud ymarfer penodol yn helpu systemau yn y corff e.e. y system lymff, treulio a’r imiwnedd. Cewch gyngor penodol ar y rhain. Gofynnir i chi hefyd ddod ag unrhyw eli neu gynnyrch personol (past danned, deodorant, colur ac ati). Y bwriad yn hyn i beth yw sicrhau’ch bod yn dewis nwyddau daionus ac nid yn dewis nwyddau sy’n dod â chemegau cas i’r corff megis isopropyl.

    Cefnogaeth Emosiynol

    Tybed a y’ch chi wedi sylwi bod symptomau penodol yn amlygu’u hunain ar ôl profiad emosiynol? Dych chi’n cochi pan dych chi’n teimlo’n chwithig? Dych chi’n ymddiried yn y teimlad hwnnw sy’n eich perfedd, y ‘gut feeling’ ‘na? Dyn ni i gyd wedi sylwi bod curiad y galon yn cyflymu pan mae ofn arnom. I rai, gall emosiynau gael effaith negyddol iawn ar eu hiechyd a’u bywydau dyddiol. Fodd bynnag, mae ffordd o drechu hyn.

    Mae gen i ffydd enfawr yn y Bach Flower Remedies ac yn arbennig yn Phytobiophysics Flower Formulas. Cânt eu defnyddio i leddfu emosiynau penodol, emosiynau cuddiedig a’r emosiynau hynny sydd yn anhysbys i’r meddwl ymwybodol. Mae’r rhain yn sefydlogi emosiynau ac yn creu cysbysedd ar sawl lefel boed yn ysbrydol, yn feddyliol, yn emosiynau ac yn gorfforol gyda’r nod o sicrhau stad tawel ac hapus unwaith eto.

    Cydbwyso Dwys O'r Chakra

    Mae cryfhau’r chakra yn cael effaith hynod ar y corff a’r meddwl. Gall cybwyso’r chakra fod yn rhan o’ch triniaeth neu fe all fod yn driniaeth annibynnol. Mae’n gallu sicrhau hwb egniol yn osgytal a’ch llonyddu.

  • Sut dw i’n gweithio?

    Mae’r apwyntiad 1af (2 awr) yn dechrau gyda sgwrs am eich iechyd presennol a’r symptomau dych chi wedi’u profi yn y gorffennol. Byddwch wedi derbyn holiadur i’w llenwi gennyf mewn e-bost. Wrth gwrs, bydd modd ei llenwi ar ddechrau’r apwyntiad yn ogystal.

    Dilynnir hyn gan sesiwn o Cinisioleg. Proses o ddefnyddio cyhyr (yn y fraich fel arfer) yw hyn i’m galluogi i asesu:

    • pa docsinau (metalau, parasitiaid, ffwng, bacteria, feirws) sy’n peri anhawster i’r corff
    • pa fwydydd a ddylai gael eu hosgoi ( yn yr 2il apwyntiad ac ati, asesir pa fwydydd gaiff eu hail-gyflwyno)
    • pa gymorth sydd eu hangen ar y corff ( boed y perfedd, y system imiwnedd, yr adrenals, yr afu ac ati)
    • pa gymorth emosiynol sydd ei angen ar y corff (Bach Flower Remedies / Phytobiophysics Flower Formulas)


    Ymgynghoriadau Dilynol

    Ystyriwch gwead y winwnsyn, gyda'i haenau niferus. Bydd pob triniaeth yn datgelu haen o gymorth pellach sydd ei angen. Mae iachâd go iawn a rhyddhad parhaol yn cymryd amser. Gofynnir i gleientiaid ymrwymo i 4 sesiwn gychwynnol. Bydd hyn yn rhoi amser i'r corff brosesu'r meddyginiaethau newydd a bydd yn rhoi syniad o sawl sesiwn arall, os o gwbl sydd eu hangen.

    Rydym yn ymdrechu i wneud y broses o wella yn broses mor syml â phosibl i'r cleient. Gyda hyn mewn golwg, gellir prynu'r meddyginiaethau'n uniongyrchol oddi wrthym yn y clinig.

  • 1

Testimonials

Ffôn
07739 210 291
Cyfeiriad
Grove Terrace
Penarth
Bro Morgannwg
CF64 2NL

Sylwer:
Ymwelwyr drwy apwyntiad yn unig